Y Gwir Am Uned Fasciwlaidd Glan Clwyd


10 May
10May

Y GWIR am Uned Fasgwlaidd Ysbyty Glan Clwyd


Mae’n ddydd Gwener, Mai 8fed, 2020 ac yr ydw i’n sgwennu’r blog yma am 8:30 y nos. Rydw i newydd ddod yn ôl adra o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, wedi i mi gael dim dewis ond mynd yno’n bersonol (yn naturiol, gan gymryd pob cam diogelwch ymlaen llaw, bwrw golwg ar dymheredd fy nghorff, gwisgo dillad oedd newydd eu golchi, a diheintio fy nwylo cyn gwisgo mwgwd a menig meddygol). Rydym ni oll ar hyn o bryd yn byw yn y sefyllfa fwyaf erchyll, ac y mae bywyd i bawb yn wahanol, ac mae’n anodd ymdopi weithiau. I mi a ‘nheulu, mae hyn wedi ei wneud yn waeth oherwydd y bu’n rhaid i mi, ar Ddydd Llun y Pasg, yrru fy ngŵr annwyl i’r ysbyty oherwydd bod yn rhaid iddo gael llawdriniaeth fasgwlaidd y diwrnod wedyn, i dorri ei goes islaw’r pen-glin. I chi ddeall yr anawsterau y bu’n rhaid i ni wynebu, mae’n well i mi esbonio sefyllfa fy ngŵr, ei salwch a beth ddigwyddodd iddo, a’r hyn arweiniodd at fy siwrne i Ysbyty Glan Clwyd heno.


Mae Pete (fy ngŵr) yn Sgowsar 49 mlwydd oed, wedi’i eni a’i fagu yn Lerpwl. Symudodd i Gymru efo’i deulu 30 mlynedd yn ôl, ac ymgartrefu yma. Ymlaen i’r flwyddyn pan aned ei fab hynaf, 1999 ac yn ogystal â chael gwybod y byddai’n dad, fe gafodd ddiagnosis ei fod yn Ddiabetig Math 2. Rwan, mae unrhyw un sy’n adnabod Pete, wedi ei gyfarfod, wedi dod wyneb yn wyneb â fo pan oedd o’n gweithio fel bownsar, neu wedi dod i unrhyw fath o gysylltiad ag o, yn gwybod un ffaith amdano. Dyn styfnig ydi o - fo fuasai’r cyntaf i gyfaddef hynny. Ac fe wnaiff gyfaddef hefyd mai ei gamgymeriad mwyaf oedd peidio â chymryd y diagnosis o ddifrif bryd hynny, a newid ei ffordd o fyw. Fodd bynnag, does dim pwynt dweud rŵan “Mi fasa’n dda gen i tawn i wedi gwneud pethau’n wahanol”. Fedrwn ni ddim newid y gorffennol. Felly, pan ddaeth Pete a minnau at ein gilydd yn 2012, doedd cyflwr ei iechyd o ddim yn wych. Roedd yn dibynnu ar inswlin, roedd ganddo fibromyalgia, ac mi fyddai’n cael briwiau cyson ar ei draed. Fe wnaeth newid ei ddull o fyw, ac fe wnaeth newid ei ddiet, a dechrau sylweddoli nad oedd o’n hollalluog, a bod yn well iddo ddechrau edrych ar ôl ei hun yn well. Mi fyddai’n gweithio am ryw 3 mis, yn cael briw o’r newydd, a byddai’n cael ei drin naill ai gan y tîm podiatreg yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor (ein hysbyty lleol) neu ganddyn nhw a’r tîm Fasgwlaidd Estyn Allan.

Rwan, mi ddyweda’i hyn heb air o gelwydd ac yn hollol sicr o’m ffeithiau. Yr oedd y tîm fasgwlaidd estyn allan, y tîm llawfeddygaeth fasgwlaidd, a phob un aelod o staff oedd yn gweithio ar ward Dulas wedi ymrwymo 100% i sicrhau fod pob un o’u cleifion yn derbyn y safon uchaf o ofal. Eu nod o hyd oedd trin y claf yn gywir yn ddi-ffael, gydag urddas, ac efo’r nod o roi’r ansawdd bywyd gorau posib iddyn nhw. Rydw i wedi gwneud cryn dipyn o ymchwil ar y pwnc hwn. Mae timau fasgwlaidd yn ymdrin â phob math o salwch a chlefydau, gan gynnwys strôc, diabetes, clefyd y galon, dementia fasgwlaidd, a llawer mwy. Mae’n bwnc cymhleth iawn, ac i unrhyw un sydd â salwch fasgwlaidd, gall fod yn amser anodd ac emosiynol dros ben. Dyma rywbeth yr oedd y staff fasgwlaidd ym Mangor o hyd yn llawn ymwybodol ohono, a phan fyddech chi’n cerdded neu’n cael eich cludo mewn cadair olwyn i ward Dulas, roeddech chi’n medru teimlo o’r awyrgylch eich bod mewn dwylo diogel, ac y byddai eich pryderon yn cael eu hateb gan weithwyr meddygol proffesiynol fyddai’n eich gadael yn dawel eich meddwl fod popeth posib yn mynd i gael ei wneud i’ch helpu.

Mi wn i hyn i sicrwydd, rwyf wedi ei weld fy hun, wedi treulio wythnosau lawer yng nghwmni’r gweithwyr anhygoel hyn, ac wedi bod yn dyst i’r ffaith fod y llawfeddyg mwyaf dawnus ac ymroddedig (mae’n Athro yn ei faes) wedi aberthu amser efo’i deulu ei hun er mwyn gwneud yn siŵr fod ei gleifion yn cael y gofal, ond yn fwy pwysig, y gefnogaeth maen nhw’n haeddu, gan wneud llawer mwy na’i ddyletswydd er lles ei gleifion.


2015 oedd i fod y flwyddyn orau ym mywydau Pete a minnau. I ni, yr hyn sy’n rhoi mwyaf o falchder i ni ydi ein plant: rydan ni’n caru’r 4 ohonyn nhw gymaint. Ac yn y flwyddyn honno, mi fyddai ein teulu yn gyflawn am ein bod yn mynd i briodi, ar Awst 22. Dyna’r cyfan y bûm i eisiau erioed, bod yn briod â dyn hyfryd, a gwylio ein plant yn prifio. Ond ar Fai 13, newidiodd popeth yn ein bywydau. Roedd Pete wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am ei fod yn dod ato’i hun ar ôl cael briw diabetig eto fyth ar ei droed; roedd yn ymddangos fel petai’n gwella’n reit dda, a’r noson honno, dywedodd fod ei droed chwith yn brifo dipyn a’i fod am fynd i’w wely’n gynnar. Mi wnes fwrw golwg ar ei draed fel arfer, fel y dysgodd y tîm estyn allan fasgiwlaidd fi i wneud, trwy wybod am beth i sylwi arno, a chadw ei droed rhag sychu i atal y croen rhag cracio, ac ati. Mi sylwais fod bodyn canol ei droed wedi chwyddo braidd ac yn biws, ac mi ofynnais i Pete oedd o wedi ei daro o gwbl, ond fedrai o ddim meddwl am ddim; roedd o jest eisiau cysgu am ei fod wedi ymlâdd.

Pan ddeffrais y bore wedyn, roedd Pete yn boeth drosto ac yn ymddangos yn reit ddryslyd. Pan dynnais y dwfe’n ôl i edrych ar ei draed, dychrynais o weld fod ei droed gyfan wedi chwyddo fel balŵn a bod y bodyn canol erbyn hyn yn lliw piws tywyll. Ffoniais y doctor yn syth, ac yr oedd hi yno ymhen yr awr. Archwiliodd hi fo, a dweud wrthym am fynd yn syth i’r adran frys, gan ei bod hi’n bryderus.

Dyma ni’n cyrraedd Adran Frys Ysbyty Gwynedd lle cafodd archwiliad trylwyr, a daeth un o’r tîm fasgiwlaidd i lawr i’r archwilio. Dywedodd ef fod madredd (‘gangrene’) yn y bodyn a bod yr haint yn lledaenu i fyny’r droed. Dywedwyd wrthym y byddai’n rhaid ei drosglwyddo fel mater o frys i Ysbyty Glan Clwyd lle’r oedd y tîm llawfeddygaeth fasgiwlaidd brys, ac y buasen nhw’n cael eu cyfarwyddo i dorri ymaith dri o fodiau ei droed a symud yr holl feinwe heintiedig o’r droed; fe wnaeth hyd yn oed farcio’r fan heintiedig gyda phen ysgrifennu. Dywedodd y byddai’n galw’r llawfeddyg fasgiwlaidd yn syth i roi gwybod iddo beth oedd angen ei wneud ac y byddai Pete yn cael ei gludo yno yn syth mewn ambiwlans.

Roedd pethau’n symud yn eithaf cyflym erbyn hyn. Cysylltais â phawb oedd angen gwybod, i ddweud wrthynt beth oedd yn digwydd, a rhuthro adref i godi mab hynaf Pete, a ffwrdd â ni i Ysbyty Glan Clwyd. Roedd yn daith 50 munud o’n cartref yng Nghaernarfon, yn hytrach na’r daith 10 munud i’n hysbyty lleol ym Mangor. Wedi i ni gyrraedd, cawsom ein cyfeirio o’r diwedd i’r ward lle’r oedd Pete, ar ôl gorfod eistedd yn yr ystafell aros am 20 munud.

Unwaith i ni gyrraedd y ward, dychrynais am fy mywyd. Roedd Pete yn wyn fel y galchen, doedd ganddo ddim syniad lle’r oedd o na beth oedd yn digwydd, yr oedd yn colli ymwybyddiaeth bob hyn a hyn. O gwmpas ei wely yr oedd 2 lawfeddyg a 2 nyrs. Yr oedd y llawfeddygon yn edrych ar ei gilydd ac yn cyffwrdd ei droed â’u dwylo i weld beth oedd y tymheredd, yna’n diflannu, ac yn dod yn ôl ymhen rhyw 5 munud. Doedd neb yn dweud dim wrthym. Doedd gen i ddim syniad beth oedd y cynllun ar gyfer y llawdriniaeth, ac yn waeth na dim, fedrwn i ddim cysuro mab Pete, oedd yn ei ddagrau yn gwylio’i dad yn gwaethygu. Roedd y llawfeddyg yn cerdded i ffwrdd, yna’n dod yn ôl, ac yn gofyn cwestiynau i Pete, a hwnnw’n amlwg heb fod mewn stad i’w ateb. Roedd yn ymddangos i mi fel petai’n gwneud popeth i oedi mynd a Pete i lawr i’r theatr, a fedrwn i ddim deall pam.

Roeddwn wedi cyrraedd pen fy nhennyn, ac mi ofynnais i’r nyrs - sef yr unig un oedd yn cydnabod y ffaith fy mod i’n sefyll yno - beth oedd yn digwydd efo Pete a beth oedd y cynllun ar gyfer y llawdriniaeth. Edrychodd arna’i a dweud fod yr anesthetydd ar ei ffordd i fyny i siarad efo Pete am y llawdriniaeth, a’r angen i’w roi dan anaesthetig cyffredinol. Ymhen 10 munud, roedd yno; cymerodd olwg ar Pete, ceisio siarad efo fo ac esbonio beth oedd yn digwydd, a llwyddodd i’w gael i gytuno y medrwn i lofnodi’r ffurflenni cydsynio ar ei ran. Yna dechreuodd gerdded i ffwrdd. Mi ddilynais i o a gofyn iddo fod yn onest efo fi. Dywedodd ei fod yn mynd ar ei union i’r theatr ac y byddai’n dweud wrth y llawfeddyg i ddod â Pete i lawr ymhen 30 munud neu fe fyddai’n rhy hwyr. Roedd yn amau sepsis, a dywedodd mai’r unig siawns i Pete oedd cael llawdriniaeth yn syth.

Fe gawsom gerdded i lawr efo fo at fynedfa’r theatr; mi wnes i ei gusanu a dweud wrtho fod yn rhaid iddo fod yn gryf, a dod yn ôl ata’i.


Roedd yr aros yn hunllef; y cyfan fedrwn i wneud oedd gobeithio a gweddïo y deuai Pete drwyddi. 3 awr yn ddiweddarach, daeth nyrs i’r ystafell aros i ddweud wrthym fod y llawdriniaeth drosodd a’i fod yn yr ystafell ymadfer. Roedd yn gymaint o ryddhad; dyma fi’n meddwl ein bod dros y gwaethaf ac y byddai popeth yn iawn rwan. Allai dim fod wedi bod ymhellach o’r gwirionedd.

Daeth Pete yn ôl i’r ward, yn edrych fymryn yn well nag y bu cyn y llawdriniaeth, ond roedd pethau’n dal heb ymddangos yn iawn, rywsut. Mi godais gynfas y gwely a gweld fod bandej dros ei droed (yn ôl y disgwyl) ond fedrwn i ddim cael gwared â’r teimlad fod rhywbeth o’i le. Mi wnes yn siwr fod Pete mor gyfforddus â’r disgwyl, gan nad oedd yn edrych fel petai neb arall ar y ward yn gwneud hynny. Trwy’r holl amser y buom ar y ward (10 awr i gyd) 3 nyrs yn unig a welsom, a dim ond un ohonynt oedd wedi bod i fwrw golwg ar Pete.

Y diwrnod wedyn, aeth rhieni Pete i ymweld ag o, a chawsant fraw o’i weld yn gorwedd ar y gwely, ei gynfasau yn waed i gyd, ei droed yn hongian dros erchwyn y gwely a gwaed yn diferu ar y llawr. Roedd y bandej yn waed i gyd, ac yr oedd golwg ofnadwy arno. Fe aethon nhw i dynnu sylw’r nyrsys at hyn, ac mi aeth 40 munud arall heibio cyn i neb ddod i lanhau’r llawr a newid y cynfasau; hyd yn oed wedyn, wnaethon nhw ddim tynnu’r bandej oedd yn waed i gyd, dim ond rhoi mwy ar ben y cyfan.

Pan wnes i ymweld ag ef drannoeth, roeddwn yn teimlo’n ddig nad oedd neb wedi dod i drafod dim gyda ni, nad oedd gennym ni syniad beth oedd wedi digwydd yn ystod y llawdriniaeth, dim ond eu bod wedi tynnu un o fodiau ei droed. Dros y penwythnos, ceisiais ymweld mor aml ag y medrwn, ac yr oedd hyn yn anodd am nad oedden ni’n union yn graig o arian, ac mai dim ond unwaith y dydd, os hynny, y medrwn fforddio mynd i’w weld. Heb sôn am y ffaith fod yn rhaid i mi ofalu am ein plant, a chyda dim ond 3 mis cyn y briodas, doedd gen i ddim syniad beth fyddai’n digwydd efo hynny. Roedd fy lefelau straen yn saethu i’r entrychion, ond y cyfan oeddwn i eisiau oedd i Pete fod yn iawn. Y Llun wedyn, Mai 18, cefais neges gan ffrind oedd yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd; roedd hi wedi clywed am Pete ac eisiau gwybod sut yr oedd o. Mi rannais fy mhryderon efo hi am y diffyg gofal a gawsai yng Nglan Clwyd a’r cyflwr ofnadwy roedd o ynddo. Roedd hi’n wych - mi roddodd wybod ar unwaith i’r tîm fasgiwlaidd yn Ysbyty Gwynedd, ac erbyn drannoeth, roeddan nhw wedi trefnu i Pete gael ei drosglwyddo yn ôl i Fangor i fod dan eu gofal hwy.

Ymhen 30 munud o gyrraedd ward Dulas, roedd y meddyg ymgynghorol a’r tîm estyn allan fasgwlaidd wedi gweld Pete, ac yr oedd tîm o nyrsus yn edrych ar ei ôl. Y peth cyntaf a’u dychrynodd nhw oedd nad oedd ei rwymynnau wedi eu newid ers eu gosod ar ôl y llawdriniaeth. Roedden nhw wedi defnyddio’r bandej anghywir, sef bandej cywasgu (‘compression’), y peth diwethaf ddylai fod wedi cael ei ddefnyddio, a’r hyn oedd yn waeth oedd y llanast roedden nhw wedi’i wneud o’i droed. Roeddan nhw wedi torri ymaith y bodyn canol, wedi torri’r croen hyd at ganol ei droed ar ffurf V, a dyna ni. Doeddan nhw heb symud ymaith ddim o’r meinwe marw na heintiedig. Tydw i ddim yn ofni gwaed a phethau o’r fath, felly doedd gweld y clwyf ddim yn bryder i mi. Rwan, nid llawfeddyg ydw i, yn amlwg, ond roeddwn i, hyd yn oed, yn medru dweud eu bod nhw wedi gwneud traed moch (maddeuwch yr ymadrodd!) o’r driniaeth hon. Roedd ei droed yn edrych fel petai plentyn wedi bod yn ei hacio. Roeddwn i’n gandryll. Daeth y llawfeddyg, Dr Chaku i’w weld, mynnu bod y droed gyfan yn cael ei glanhau, a threuliodd lawer o amser yn esbonio i ni’n dau beth fyddai’n rhaid iddo wneud. Dywedodd wrthym y byddai’n rhaid iddo roi llawdriniaeth, ac na fedrai warantu y gallai arbed coes Pete, ond y gwnâi bopeth yn ei allu i geisio gwneud hynny. Yr oedd yn llawn gofal, yn garedig, ond yn fwy na dim, roedd gennym ni hyder yn ei allu i wneud y llawdriniaeth. Gwnaeth yn siwr fod Pete yn cael y gwrthfiotigau iawn (rhywbeth arall y method Glan Clwyd ei wneud) a dywedodd wrthym y buasai’n gwneud y llawdriniaeth y diwrnod wedyn.

Drannoeth, cymerwyd Pete i lawr i’r theatr a chynhaliodd Dr Chaku y llawdriniaeth. Torrodd ymaith ddau arall o’r bodiau, a thorri yr holl ffordd i fyny ei goes i ryw ddwy fodfedd islaw ei ben-glin, er mwyn symud ymaith yr holl gig marw a’r meinwe heintiedig. Dyna pa mor bell y bu’n rhaid iddyn nhw fynd oherwydd methiannau Glan Clwyd. Roedd hyn yn enbyd o beth i ni fel teulu, ond yr oedd yn gysur i ni wybod fod Pete yn awr yn cael y gofal gorau oll, ac yr oedd gennym bob hyder yn y tîm fasgiwlaidd. Byddai’r Athro Dean Williams oedd yn goruchwylio’r uned fasgiwlaidd yn dod i weld Pete a’i adolygu’n rheolaidd. Roedd yn gweithio ar gynllun i’w adsefydlu, ac eisteddodd efo mi a thrafod yn fanwl pa brofiadau fyddai’n dod i ran Pete, beth oedd eu cynllun ar gyfer ei wella, ond y peth mwyaf rhyfeddol oedd iddo addo y byddai’n cael Pete i’n priodas. Efallai y byddai’n rhaid iddo fod mewn cadair olwyn, meddai, ond doeddwn i’n hidio dim am hynny. Yr oedd yr Athro Williams a’i dîm wedi arbed coes Pete, yr oeddent yn gofalu amdano yn wych, ac wedi rhoi gobaith i ni oll.


Cadwodd yr Athro Williams a’i dîm at eu gair. Medrodd Pete fod yno i’r briodas, a diolch i’r gofal a’r adsefydlu campus a gafodd yn Ysbyty Gwynedd, doedd o ddim mewn cadair olwyn. Pan edrychais i lawr yr eil, dyna lle’r oedd o’n sefyll yn falch yn disgwyl amdana’i. Roedd gan y tîm fasgiwlaidd oll wedi chwarae eu rhan i wneud yn siwr fod diwrnod ein priodas mor arbennig ag y bu i unrhyw un, ac oherwydd hynny, bydd lle cynnes yn fy nghalon iddyn nhw am byth.


Roedd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn anodd, ond gyda chefnogaeth y tîm ardderchog yn Ysbyty Gwynedd, dechreuodd Pete ddod ato’i hun. Aeth pethau cystal nes bod y meinwe a’r croen wedi tyfu’n ôl heb fod angen llawdriniaeth bellach; fu dim angen impio croen, hyd yn oed, oedd yn syndod i bawb. Fodd bynnag, yr oedd y llanast o driniaeth yng Nglan Clwyd wedi cael effaith ddrwg ar iechyd meddwl Pete. Rwy’n dioddef fel hyn fy hun, felly roeddwn yn gyfarwydd â’r arwyddion. Roedd Pete yn dioddef o PTSD. Byddai’n deffro ganol nos yn sgrechian eu bod nhw’n mynd i ddwyn ei goes. Byddai’n cael hunllefau cyson am fynd trwy ddrysau’r theatr yng Nglan Clwyd. Newidiodd y cyfan ef, ac yr oedd hynny’n boenus i’w wylio. Fe wnaeth i mi addo na fyddai’n rhaid iddo fo byth eto fynd yn ôl i Glan Clwyd, ac ar ôl y ffordd warthus y cafodd ei drin yno, doeddwn i byth am iddo ddioddef y math yna o esgeulustod a blerwch eto. Llwyddodd Dr Chaku a’r Athro Williams i drin bob cymhlethdod a ddaeth i ran Pete yno ar ward Dulas; fe wnaethon nhw unwaith dynnu ymaith ei metatarsals yn y ciwbicl ar y ward, am eu bod yn adnabod eu cleifion, ac mai dyna oedd yn golygu mai hwy oedd y tîm gorau yn y wlad. Nid rhifau neu ystadegau oedd eu cleifion iddyn nhw; bodau dynol oedden nhw, oedd yn haeddu cael eu trin â pharch ac urddas.

Ac yna cawsom ein hysgwyd gan y newyddion ofnadwy am gynllun Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i symud yr uned fasgiwlaidd o Fangor i Glan Clwyd. Roeddem wedi gwylltio – sut ar wyneb y ddaear y gallai neb feddwl fod symud uned orau’r wlad yn mynd i unioni methiannau’r lle trychinebus hwnnw? Yn fy marn i, doedd a wnelo hyn ddim oll â gwella’r gofal i gleifion, a phopeth i’w wneud â chelu eu camgymeriadau a thrychinebau ysbyty fethiannus. Roedd Pete yn bendant na fyddai’n dychwelyd yno; yr oedd ei lefelau pryder yn wirion o uchel ac yr oedd yn ofni cael ei yrru yno. Yna pan glywsom na fyddai’r uned yn symud, fe ddaeth ton o ryddhad, ond byrhoedlog fu hynny. Welwch chi, roedd y Bwrdd wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd – roeddan nhw am symud yr uned. Yr oedd hyn yn ddim llai na gwarth. Ac fe arweiniodd at y canlyniad gwaethaf y gallwn fod wedi dychmygu. Ymddiswyddodd yr Athro Williams a Dr Chaku. Yr oedd hyn yn golled enfawr i’r gymuned feddygol gyfan, ond yn ergyd drom hefyd i’w holl gleifion.


Ym mis Rhagfyr 2019 rhaid fu i Pete unwaith eto fynd i ward Dulas; yr oedd wedi colli sawdl ei droed dde. Dr Chaku oedd wedi bod yn gofalu amdano hyd at hynny, ond pan aeth i mewn y tro hwn, doedd Dr Chaku ddim yno, doedd yr Athro Williams ddim yno, na neb o’r tîm ardderchog. Cafodd ei drin gan lawfeddyg oedd yn fedrus, oedd yn gwybod beth roedd o’n wneud, ond fe sylwais i ar un broblem fach. Yn Llundain yr oedd ei brif gartref!! Rwan, tydw i ddim yn arbenigwraig ar ddaearyddiaeth, ond rydw i’n eitha sicr nad ydi Llundain yng Ngwynedd, na hyd yn oed yn Sir Ddinbych. Tydi hi ddim yn yr un wlad, hyd yn oed! A dyma sut maen nhw am i’r “uned fasgiwlaidd orau yn y byd” gael ei rhedeg o Glan Clwyd? Gyda llawfeddygon nad ydyn nhw hyd yn oed yn byw yn yr un wlad â’r ysbyty – mae’r peth yn chwerthinllyd.



Pan wrthododd Pete gael ei drosglwyddo i Glan Clwyd, roedd pobl yn elyniaethus tuag ato, ac ni chafodd ei drin yn garedig o gwbl. Pan gyrhaeddais yr ysbyty, fe wnes innau hefyd geisio dadlau’r achos yr oedd Pete yn ceisio ei esbonio wrthynt, nad oedd Glan Clwyd yn fan lle teimlai’n ddiogel, y gallai’r holl straen achosi difrod corfforol drwg iddo yn ogystal â niwed meddyliol, ond doeddan nhw ddim eisiau gwrando, ac fe wnaethant eu gorau i ‘nghael i i argyhoeddi Pete i wneud yr hyn roeddan nhw eisiau. Fe ddaru ni ennill y frwydr arbennig honno; efallai bod a wnelo hynny rywbeth â’r ffaith fod y llawfeddyg wedi sylwi fy mod yn cadw nodiadau manwl gyda thystiolaeth ffotograffaidd o bopeth oedd yn digwydd gydag achos Pete, am i fanylion ei dro cyntaf yng Nglan Clwyd “ddiflannu, yn rhyfedd iawn” o’i ffeil feddygol.



Felly, ar fore noswyl Nadolig 2019, cymerwyd Pete i lawr i theatr yn Ysbyty Gwynedd a gwnaed y driniaeth dan anaesthetig ‘blocker’ oedd yn golygu ei fod yn effro; rhyddhad mawr i Pete, a’r noson honno, cefais ei godi o’r ysbyty a mynd ag ef adref i ddathlu’r Nadolig gyda’i deulu.


Roedd ei glwyfau yn cael eu trin a’u monitro gan y Nyrsus Ardal oedd yn ymweld â Pete gartref bob dydd, ac fe’i gwelwyd yn yr ysbyty gan nyrsus fasgiwlaidd pan fyddai’n mynd yno am dialysis (bob dydd Llun, Mercher a Gwener) ac ambell waith byddai’n cael ei weld gan y llawfeddyg a wnaeth y driniaeth adeg y Nadolig. Yna, yn union cyn y cyfnod cloi ledled y wlad, dywedodd wrth Pete, er eu bod wedi bod yn ceisio gwrthweithio’r haint yn ei goes gyda gwrthfiotigau, nad oedd hyn yn cael yr effaith a ddymunwyd. Byddai’n rhaid iddyn nhw dorri’r goes, ac ni fyddai’n medru gwneud hynny yn Ysbyty Gwynedd - byddai’n rhaid iddo fynd i Glan Clwyd. Dyma’r newyddion y bûm yn ei ofni ers misoedd. Gwyddwn nad oedd dewis arall, diolch i benderfyniad y Bwrdd Iechyd - does unman arall ar gael. Byddai’n rhaid i Pete ddychwelyd i’r un fan yr addewais i iddo na fyddai’n rhaid iddo ei weld eto. ‘Dach chi’n gweld, roedd Pete wedi gwneud yr un addewid i mi flynyddoedd lawer yn ôl. Fel y gallwch weld o flogiau blaenorol gen i, rydw i’n rhywun ddioddefodd drais domestig yn y gorffennol, ac y mae yna le fydd yn tanio fy holl bryderon ac yn dwyn atgofion erchyll yn ôl i’r wyneb. Addawodd Pete i mi na fyddai’n rhaid i mi fynd yn ôl yno byth, a hyd yn oed gyda’i iechyd yn dirywio, mae wedi cadw at yr addewid hwnnw, a chadw ato a wnaiff.


Felly dyma’r penderfyniad anodd oedd yn ein hwynebu, ond doedd yna ddim dewis, fe fyddai’n rhaid i Pete gael y llawdriniaeth, a byddai’n rhaid ei chynnal yng Nglan Clwyd. Felly dyna ni ar ddydd Llun y Pasg, yn teithio am awr i Ysbyty Glan Clwyd. Ac mi allwn deimlo ei lefelau pryder yn codi wrth i ni nesáu at y lle. Roedd hi’n ofnadwy o anodd i Pete fynd i mewn i’r ysbyty yna eto, a’i lefelau pryder yn beryglus o uchel, a’r hyn oedd yn waeth y tro hwn oedd gwybod na fedrwn i fod yno i’w gefnogi. Yn naturiol, oherwydd pandemig COVID 19, dyw ymwelwyr ddim yn cael mynd i’r wardiau. Felly pan euthum i ag o yno, dyna’r tro diwethaf i mi ei weld. Wrth gwrs, mae gynnon ni’r dechnoleg fodern i helpu i gadw mewn cysylltiad, ond tydi o ddim yr un peth, nac ydi? Medru gafael yn llaw eich gŵr a deud wrtho fo mor ddewr ydi o a thawelu ei feddwl.

Ar ddydd Mawrth, Ebrill 14, cymerwyd Pete i lawr i’r theatr. Roedd wedi rhoi galwad i mi ymlaen llaw a dweud fod y driniaeth yn mynd i gael ei gwneud eto dan anaesthetig lleol, ond na fyddai’r llawfeddyg oedd wedi ennill ei ymddiriedaeth ac wedi dweud mai ef fyddai’n gwneud y llawdriniaeth yno – coeliwch neu beidio, roedd yn Ysbyty Gwynedd!

Roedd i fod i gael llawdriniaeth yn y prynhawn, ond cafodd ei gadw yn aros y tu allan i’r theatr am awr. Doedd hyn ddim yn help yn y byd i’w bryder, roedd yn arswydo mynd i mewn yno eto, ac yn awr dyma fo’n gorfod gorwedd ar droli a syllu ar y drysau fu’n llenwi ei hunllefau dros y 5 mlynedd diwethaf. O’r diwedd, mi aeth i mewn, ac fe wnaed y llawdriniaeth. Torrwyd ei goes dan y benglin, fel y trafodwyd eisoes, ac aed ac ef wedyn i’r ystafell ymadfer. Aeth oriau heibio, a dyna lle’r oedden ni i gyd adref yn mynd o’n coeau yn poeni. Dyma hi’n 9 y nos, a finnau heb glywed dim, felly roedd yn rhaid i mi chwilota ar y rhyngrwyd am rif cyswllt Glan Clwyd - ddim yn dasg mor hawdd ag y dylai fod - ac wedi galw 5 gwaith, cefais ateb o’r diwedd. Dywedais fy mod eisiau cael fy nghyfeirio at ward 3 Fasgwlaidd am newyddion am lawdriniaeth fy ngŵr. Cefais fy ail-gyfeirio i rywle arall, gofynnais yr un peth eto, a chadwyd fi’n dal y lein am 6 munud, cyn i’r lein gau. Dyma fi’n galw unwaith eto a holi’r un cwestiwn, cael fy ail-gyfeirio i’r lle anghywir (eto) a dywedwyd fod ganddynt un claf yn ymadfer ond nad oedd enw iddo ar y system. Ceisiodd y wraig ar y ffôn weld os mai Pete oedd o, ond chafodd hi mo’r wybodaeth. Ymhen hir a hwyr, cefais fy rhoi drwodd i’r ward a phan ofynnais am wybodaeth, dywedodd y nyrs nad oedd ganddi ddim syniad ac a fyddai modd i mi alw nôl yn nes ymlaen. Doeddwn i ddim ar unrhyw gyfrif yn mynd i eistedd yn ôl am awr arall heb wybod beth oedd yn digwydd i ‘ngŵr, a fu’r llawdriniaeth yn llwyddiannus neu beidio, neu hyd yn oed a oedd yn dal yn fyw, o ystyried y perygl oherwydd ei iechyd bregus. Gofynnais iddi a fyddai hi cystal â darganfod beth oedd wedi digwydd i Pete a dywedwyd wrtha’i am aros; roedd hi’n amlwg newydd roi’r ffôn i lawr ar y ddesg am fy mod i’n dal i fedru clywed beth oedd hi’n ddweud. Y peth cyntaf a glywais oedd hi’n gofyn a fedrai hi gael paned o de hefyd (pwysig iddyn nhw gael digon o hylif, wrth gwrs, ond prin bod hynny’n flaenoriaeth ar y funud honno), rhyw synau aneglur, yna o’r diwedd mi holodd lle oedd Pete, yn dweud bod ei wraig wedi ffonio’r ysbyty a wnaiff hi ddim ffonio’n ôl (anghwrtais, yntê) yna fe gododd y ffôn eto, dweud ei fod yn yr ystafell ymadfer ac y byddai’n ôl ar y ward ymhen y 30 munud nesaf.

Am 11pm gwnaeth Pete alwad fideo i mi i ddweud ei fod newydd gyrraedd yn ôl ar y ward. Daeth ton o ryddha drosof o weld ei wyneb annwyl a gwybod y bu’r llawdriniaeth yn llwyddiannus; buom yn sgwrsio am sbel, ac yr oeddwn i’n meddwl y byddai pethau’n iawn. Byddai dod ato’i hun yn broses faith ac anodd, ond fe wyddwn y byddai Pete yn medru dod i ben. Ar Ebrill 17, trosglwyddwyd Pete yn ôl i Ysbyty Gwynedd fel y gallai barhau i wella yno. Roedden ni i gyd yn teimlo mor llawen, ond beth ddigwyddodd wedyn? Ar Fai 1, mae’n cael ei yrru’n ôl i Glan Clwyd am eu bod yn amau bod yr haint yn dal yno, yn dal yn yr asgwrn. Fedrwn i ddim creu’r hyn roeddwn i’n glywed. Unwaith eto, mi fyddai yn y lle sy’n achosi cymaint o bryder iddo, a byddai angen mwy o lawdriniaeth. Cafodd ei gymryd i lawr i’r theatr i dynnu ymaith dipyn bach o feinwe heintiedig, dim byd mawr, ond yn achos pryder er hynny. Yna galwodd Pete a chael sgwrs sydd wedi fy mhryderu byth ers hynny - mi fyddai’n rhaid iddyn nhw wneud llawdriniaeth ar ei goes eto, am nad oeddent yn argyhoeddedig eu bod wedi cymryd yr holl feinwe ac asgwrn heintiedig ymaith y tro cyntaf, felly byddai’n rhaid iddynt dorri uwchlaw’r ben-glin. Ar ddydd Mawrth Mai 5, cafodd ei gymryd i lawr ar y drydedd waith i’r theatr.


Fuasech chi eisiau mwy o wybodaeth am y llawdriniaeth? Ddaru nhw lwyddo i symud yr haint i gyd o’i goes? Ydyn nhw’n sicr na fydd arno angen mwy o lawdriniaethau? Sut mae Pete ynddo’i hun? Sut mae ei iechyd ar hyn o bryd? Mi hoffwn i wybod hefyd. Does gen i ddim o’r wybodaeth honno, does neb o’r ysbyty na’r ward wedi dweud dim wrtha’i. Bob tro y byddwn yn trio galw Pete, fyddai yna ddim ateb, ac ar yr adegau prin hynny pan fyddai’n codi’r ffôn, fedrwn i ddim deall unrhyw beth oedd o’n ddweud, ond ei fod yn dweud ei fod mor llawn o boenladdwyr mae o’n gael. Y pryder i mi, er hynny oedd, waeth faint o feddyginiaeth lladd poen y bu Pete yn gael cyn hyn, fe fyddai o hyd yn fy ffonio i, neu ei fab. Ond y prynhawn yma, roedden ni ar ben ein tennyn. Roedd pawb wedi bod yn ceisio ei ffonio, roedd ei ffôn wedi ei ddiffodd, roedd ei rieni a minnau wedi bod yn ffonio’r ysbyty o leiaf deirgwaith, yn cymryd oes i fynd drwodd i’r ward, a phan fydden ni’n mynd drwodd o’r diwedd, y cyfan gaen ni oedd pethau fel “Fedrwch chi alw nôl wedyn” “Dwn i ddim pa nyrs sy’n gofalu am ei ofal” “Dwi’n meddwl ei fod o lawr yn dialysis, fedrwch chi drio eto yn nes ymlaen?”

Fedrwn i ddim goddef dim mwy, a dyna pam yr es i i’r car a theithio am awr i geisio cael rhai atebion.


Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld Pete, am fy mod i’n deall bod rheolau ar gael ynghylch ymwelwyr, a bod rheswm da dros hynny, ond yr oeddwn am drio cael atebion. O’r diwedd, mi ddaeth nyrs allan i’r cyntedd i ‘ngweld. Fe ddywedodd hynny a wyddai hi, fod ei driniaeth wedi mynd yn dda, nad oedd ei glwyf wedi ei gau am y byddai angen iddyn nhw fynd yn ôl eto, fod ‘blocker’ wedi ei osod fel na fedrai deimlo ei goes, ac mae’n debyg y byddai’n gweld rhywun ar ddydd Llun, ac na ddylwn i boeni.


Sut medra’i beidio poeni? Mae fy ngŵr yn mynd i gael triniaeth arall eto fyth (mwy o driniaethau a thorri mewn 3 wythnos nac y gwnaeth yr Athro Williams neu Dr Chaku yn ystod y 6 blynedd y buont yn gofalu amdano) a doedd neb yn dweud dim wrtha’i. Pam cadw’r clwyf ar agor? Onid oes mwy o berygl cael haint gyda chlwyf agored? Pa na fuo fo fel fo’i hun dros y 3 diwrnod diwethaf? Pam ei fod yn cael dialysis am 2 awr yn fwy na’r arfer bob tro?


Mae gen i gymaint o gwestiynau, a cha’i ddim ateb o gwbl gan yr ysbyty yna. A dyna pam y penderfynais i sgwennu am y peth, a rhannu hanes Pete fel y gall pobl wybod yn union beth sy’n digwydd yn y lle yna, sut mae’r cleifion yn cael eu trin, sut mae eu teuluoedd yn cael eu trin, a’r ffaith eu bod wedi gwneud penderfyniad ofnadwy wrth symud un o’r unedau fasgiwlaidd gorau yn y byd i ysbyty sy’n ceisio cuddio’i beiau a chamgymeriadau mawr. Wel, tydyn ni am fod yn ddistaw ddim mwy. Wna’i ddim gadael i’r Bwrdd Iechyd gael getawê efo trin pobl fel hyn. Mae ganddyn nhw ddyletswydd o ofal, ac ar hyn o bryd, tydyn nhhw ddim yn cyflawni’r ddyletswydd honno. Dylai’r uned lawfeddygol fasgiwlaidd gael ei rhedeg o Ysbyty Gwynedd ym Mangor dan arolygaeth yr Athro Dean Williams. Byddai bywydau cleifion yn well, ni fyddai’r ffactor risg mor uchel, ac yn wahanol i Glan Clwyd, fyddan nhw ddim yn cael eu galw yn “chop shop”. Dyna’r enw mae’r gymuned leol yn roi i’r uned fasgiwlaidd yno, oherwydd y cyfan maen nhw’n wneud ydi torri aelodau, heb drio trin mewn ffyrdd eraill fel mae MODD ei wneud, fel y gwnaeth yr Athro Williams a’i dîm mor llwyddiannus am flynyddoedd lawer.


Nid dyma ddiwedd stori Pete: wna’i ddim caniatáu hynny. Mi frwydra’i drosto fo, ond mi frwydra’i hefyd dros bawb arall sydd wedi lleisio pryder am y penderfyniad yma, y rhai yr effeithiwyd arnynt mor ddrwg, a’r rhai sydd ofn codi llais am yr hyn sydd yn wir yn digwydd y tu ôl i’r llenni.


Ar ran Pete a’n teulu cyfan, hoffwn ddiolch i chi am ddarllen ei hanes, ac oes medrwch chi rannu hyn efo cynifer o bobl ag sydd modd fel eu bod hwy yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yng Nglan Clwyd, yna byddai’n help mawr. Ac os oes unrhyw un eisiau cysylltu â mi am y mater yma, neu os yw’r newid wedi effeithio arnyn nhw mewn unrhyw ffordd, yna cofiwch fod croeso i chi fy e-bostio i ar unrhyw adeg.


Gofalwch amdanoch eich hun, ac am eich gilydd.



Comments
* The email will not be published on the website.